For my Welsh speaking friends, the following article appeared recently in “Y Goleuad”, the paper of The Presbyterian Church in Wales, but also, I am told, in the papers of the Welsh Baptists and Independents. I wrote a small section about the work in Guingamp, and my Father in law complemented it. Watch out for another article to appear in the next issue of “Y cylchgrawn” (an interview)
Tro yn Llydaw
gan y Parchg Ioan DaviesNid yn aml y meddylia pobl heddiw am Ffrainc na Llydaw fel maes cenhadol. Wedi’r cyfan, onid oes yna eglwysi gorwych bron ym mhob tref a phentref, a gellir gweld gorymdeithiau lliwgar, poblogaidd ar eu gwyliau arbennig? Digon gwir, ond wedi dweud hynny, prin iawn yw’r bobl sy’n mynychu oedfaon y Sul gydag unrhyw gysondeb, heb sôn am bobl â phrofiad achubol o’r Efengyl.
Mae’r hyn a ddywed O. M. Edwards yn ei ragymadrodd i “Tro yn Llydaw†yn ddiddorol: “Yr un bobl yw’r Llydawiaid a’r Cymry a’r un yw eu hiaith. Ond wedi byw ychydig wythnosau ymysg y Llydawiaid a rhoi tro o amgylch eu gwlad, teimlais fod eu tebygolrwydd mawr i’r Cymry yn rhoddi rhyw ddieithrwch rhyfedd ar y bobl hyn – ar eu gwynebau, ar eu harferon, ar eu hiaith.” Mae’n mynd ymlaen i esbonio: “Cymru heb ei Diwygiad ydyw Llydaw … nid oes yno yr un seiat i ‘ddinistrio difyr-gampau diniwed y werin ac i droi crefydd lawen y bobl yn rhagrith sur’ ond y mae yn Llydaw anfoesoldeb y buasai meddwon Cymru yn gresynu ato.†Rheswm arall am y gwahaniaeth? “Cymru heb ei Hysgol Sul yw Llydaw. Oherwydd hyn maen nhw’n ofergoelus ungred, yn byw mewn ofn yr offeiriad ac yn wasaidd gaeth i’w huchelwyr … nid oes ganddynt gred yng ngwerth enaid i roddi iddynt ddemocratiaeth Cymru … Mae anffyddiaeth andwyol Ffrainc yn prysur dreiddio i’w chyrrau eithaf. “ Ychwanega: “Os na chyfrynga Rhagluniaeth yn fuan, ni fydd y Llydäwr ond Ffrancwr, heb awen, heb athrylith, heb Dduw yn y byd.”
Beth bynnag feddyliwn am farn neu ragfarn O. M. Edwards (ac y mae pethau wedi newid llawer yn Llydaw ac yng Nghymru ers ei ddyddiau ef), mae’n hanesyddol gywir i ddweud na chafodd y Diwygiad Protestannaidd fawr o ddylanwad ar Ffrainc. Ar waethaf ymdrechion glew i efengyleiddio Llydaw gan y Bedyddwyr mor gynnar â 1821, methiant a fu yr ymgais honno. Galwyd sylw’r Methodistiaid Calfinaidd at angen y wlad gan un o’r enw David Jones yn 1824, a chafwyd ymgais arall yn 1834 gan y Bedyddwyr trwy John Jenkins. Cyfieithwyd y Testament Newydd i’r Llydaweg, a dosbarthwyd nifer mawr, ond pasiwyd deddfau a’i gwnâi yn anghyfreithlon i genhadu yn Llydaw. Er hynny, parhawyd i ymdrechu hyd ddechrau’r Ugeinfed Ganrif.
Enw a gysylltir â gwaith yr Efengyl yn Llydaw yw Caradoc Jones, brodor o Rosllannerchrugog ac aelod o eglwys y Bedyddwyr Albanaidd. Wedi teimlo galwad i’r weinidogaeth, derbyniwyd ef yn fyfyriwr yng Ngholeg Spurgeon. Tra roedd gartref dros wyliau’r Nadolig, daeth o dan ddylanwad y Diwygiad oedd wedi torri allan ychydig wythnosau’n gynharach yn Rhos, ac ar ddiwedd ei gwrs colegol ordeiniwyd ef yn weinidog ar ddwy eglwys yng Nghaerdydd. Tyfodd y gwaith yno’n rhyfeddol. Fodd bynnag, roedd ei fryd o’r cychwyn ar fynd allan i Lydaw, ac yn 1920 dechreuodd pennod arall ffrwythlon iawn yn ei hanes, a llwyddodd i sefydlu nifer o eglwysi Protestannaidd yng ngogledd Llydaw. (Gweler Caradoc Jones A Forgotten Missionary gan Noel Gibbard). Erbyn hyn mae eglwysi Protestannaidd Efengylaidd yn fwy cyffredin.
Un o’r eglwysi hyn yw Eglwys Efengylaidd GUINGAMP, tref a saif oddeutu gwaith awr o deithio o Roscoff i gyfeiriad St. Brieuc. Sefydlwyd yr eglwys yn y 7Oau gan Ffrancwr a’i deulu. Yn ddiweddarach ymunodd teulu arall. Araf iawn fu’r cynnydd dros y blynyddoedd ac mae’r eglwys wedi wynebu llawer siom, ond erbyn hyn mae’n berchen ar ei hadeilad ei hunain ac mae ganddi weinidog llawn amser, Ffrancwr, â’i wraig yn genhades o Dde Cymru gyda UFM (Unevange!ized Fields Mission). Ar Sul da, ceir rhwng 20 a 25 yn y gwasanaeth.
Ym mis Awst 2010 ymunodd Emmanuel ac Esther Durand â’r gwaith. Maent hwythau hefyd yn gweithio dan nawdd UFM yn Guingamp. Tref fechan o ryw 8,000 o bobl yw Guingamp, ac yn gwasanaethu poblogaeth o 23,000 yn y wlad gyfagos. Nid oes eglwys efengylaidd arall yn agos ati, ac eithrio eglwys efengylaidd y Sipsiwn. Mae Esther yn Gymraes, yn ferch i’r Parchg a Mrs loan Davies, Y Bala, ac mae ganddi hi a’i gwr dri o hogiau. Mae gwaith Emmanuel yn cynnwys pregethu i adeiladu’r aelodau yn y Ffydd, a chyrraedd allan trwy fynd i’r gwahanol farchnadoedd bob wythnos gyda stondin lenyddiaeth. Yn ystod mis Tachwedd a Rhagfyr cynhaliwyd cyrsiau ar gyfer pobl oedd eisiau dysgu mwy am y Ffydd Gristnogol. Daeth tua 13 bob wythnos, rhai o blith yr aelodau a rhai o’r tu allan. Am yn ail flwyddyn, gyda chefnogaeth cyfeillion yr achos sy’n medru rhywfaint o Ffrangeg, cynhelir cenhadaeth am bythefnos pryd y gwahoddir ffrindiau a chymdogion i gyfarfodydd plant, pobl ifanc a rhai mewn oed. Ond prin ar y cyfan yw’r ffrwyth amlwg. “Y cynhaeaf yn wir sydd fawr.†Os carech wybod mwy am y sefyllfa, gellwch gysylltu gyda Emmanuel ac Esther: erdurand@gmail.com